Tom Hiddleston

Tom Hiddleston
GanwydThomas William Hiddleston Edit this on Wikidata
9 Chwefror 1981 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Man preswylBelsize Park Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, digrifwr, cerddor, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, actor Edit this on Wikidata
TadJames Norman Hiddleston Edit this on Wikidata
MamDiana Patricia Servaes Edit this on Wikidata
PriodZawe Ashton Edit this on Wikidata
PartnerTaylor Swift Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y Golden Globe i'r Actor Gorau - Cyfres Bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr Laurence Olivier i'r Niwbi Gorau mewn Drama, Gwobr MTV Movie am Ffeit Orau, Gwobr Laurence Olivier, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Empire Award for Best Male Newcomer, Empire Hero Award Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Thomas William Hiddleston (ganed 9 Chwefror 1981) yn actor Seisnig. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Loki yn y Bydysawd Sinematig Marvel, ac ymddangosodd yn Thor (2011), The Avengers (2012), a Thor: The Dark World (2013). Mae hefyd wedi ymddangos yn War Horse (2011) Steven Spielberg, The Deep Blue Sea (2011), comedi rhamantaidd Woody Allen Midnight in Paris (2011), y gyfres 2012 BBC Henry IV, Henry V, a'r ffilm fampirod rhamantaidd Only Lovers Left Alive (2013). Ar y llwyfan, y mae wedi ymddangos yng nghynhyrchiadau Cymbeline (2007) ac Ivanov (2008). Ym mis Rhagfyr 2013 serennodd fel y cymeriad teitl yng nghynhyrchiad y Donmar Warehouse Coriolanus a redodd tan mis Chwefror 2014. Serennodd yn y ffilm High-Rise (2015) fel Dr. Robert Laing, cyn ymddangos yn 2016 fel Jonathan Pine ym mini-gyres y BBC, The Night Manager.

Enillodd y Wobr Laurence Olivier ar gyfer yr Actor Newydd Gorau mewn Drama ar gyfer ei rôl yn Cymbeline, ac enwebwyd Hiddleston ar gyfer yr un wobr yn yr un flwyddyn ar gyfer ei rôl fel Cassio yn Othello. Yn 2011, enillodd y Wobr Empire ar gyfer yr Actor Newydd Gwrywaidd Gorau a fe'i enwebwyd ar gyfer y Wobr BAFTA ar gyfer Seren Newydd ar gyfer ei rôl yn Thor. Enillodd y Wobr Ffilm MTV ar gyfer y Frwydr Orau a'r Dihyryn Gorau yn 2013 ar gyfer ei rôl yn The Avengers. Ar gyfer ei rôl yn y ddrama 2013 Coriolanus, enillodd Wobr Theatr yr Evening Standard ar gyfer yr Actor Gorau.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search